Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Ionawr 2020
Amser:
13.00 -
14.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5869
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Carwyn Jones AC Dai Lloyd AC |
Tystion: |
Des Clifford, Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru Dr Robert Parry, Llywodraeth Cymru Chris Warner, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Manon George (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
Cafodd eitemau 2 a 3 eu trafod gyda'i gilydd
Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Prif Weinidog a’i swyddogion.
Cytunodd y Pwyllgor i ohebu â’r Prif Weinidog ynghylch materion a godwyd yn ystod y sesiwn.
Gweler eitem 2 uchod.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i ystyried materion allweddol mewn cyfarfod yn y dyfodol ar gyfer eu cynnwys mewn adroddiad drafft.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a bydd yn ystyried ac yn cytuno ar adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y tu allan i'r Pwyllgor. Nododd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol, sef 17 Ionawr 2020.
Trafododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Diwygio Etholiadol y Cynulliad maes o law.